Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2015
Amser: 09.00 -
10.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3250
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Syr Derek Jones, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Richard Harries (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Sandy Mewies AC fuddiant fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15, gan holi Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd Syr Derek Jones i anfon rhagor o wybodaeth am y materion canlynol:
· Manylion y traffig i wefan Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru a nifer y bobl a fu’n ymweld â’r wefan, i roi arwydd ynghylch nifer y darllenwyr.
· Rhesymau pam y mae swm y gwastraff bwyd drwy ystâd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ers 2013-14
· Rhesymau pam nad yw cronfa risg y GIG wedi cael ei nodi fel eitemau unigol yn y cyfrifon cyfunol ar gyfer 2014-15 fel y bu yn y gorffennol, ac eglurhad ynghylch pam nad yw’r wybodaeth hon wedi cael ei nodi yn y cyfrifon
· Darparu dadansoddiad llawn o’r eitemau nad ydynt yn arian parod a gwariant a reolir yn flynyddol, a chynnwys y ffigurau ar gyfer 2013-14 er mwyn eu cymharu
· Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rheoli arian parod, ac yn benodol y tanwariant o £86.8m yn ymwneud â byrddau iechyd
· Manylion ar yr hyn y mae’r £19.6m ar gyfer cyfrifoldebau eraill yn ei gynnwys
· Pryd yr oedd disgwyl cael y derbynebau gwreiddiol ar gyfer y taliadau arbennig yn ymwneud â Chwmni Peirianneg Tryst a Swyddfa Desk Link
· Y sefyllfa o ran ailstocio cyffuriau gwrth-firol ar gyfer achosion o ffliw pandemig
· Achos y colledion o ran Dewis Gyrfa Cyf
3.3 Wrth ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnodd yr Aelodau i’r Ysgrifennydd Parhaol anfon manylion ynghylch sut y bydd ei strategaeth i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau o 50:50 erbyn 20:20 yn cael ei gyflawni.
4.1 Nododd yr aelodau yr ohebiaeth.
4.2 Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn gofyn i lywodraeth leol ddarparu gwybodaeth fanylach am yr hyn yw bwriad pob cronfa wrth gefn a sut y maent yn disgwyl eu gwario dros gyfnod o amser.
4.3 Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn annhebygol y bydd y Pwyllgor yn ailedrych ar y mater hwn cyn diwedd tymor y Cynulliad.
5.1 Cytunodd yr Aelodau y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ar yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.